Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (101)v6 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
Cwestiwn Brys Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar yr Adolygiad Canol-Blwyddyn o Gyllid y GIG, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar gynaliadwyedd cyllid y GIG yng Nghymru. |
3. Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (30 munud) |
4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Atal Thrombo-emboledd Gwythiennol Ymhlith Cleifion Mewn Ysbytai (60 munud)
NDM5116 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2012.
Dogfennau ategol: |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5114 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Uned Gyflawni’r Prif Weinidog yn aneffeithiol, o ystyried methiant parhaus Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Yn galw ar y Prif Weinidog i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd yr Uned Gyflawni o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwyntiau newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith, ers sefydlu’r Uned Gyflawni:
a) bod nifer y cleifion sy’n cael eu trin o fewn 26 wythnos ac o fewn 36 wythnos wedi gostwng, yn ôl ffigurau mis Medi 2011 a mis Medi 2012 gan StatsCymru; b) roedd nifer y myfyrwyr a gafodd 5 TGAU A*-C yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr; c) bod diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc wedi codi 400%, yn ôl ffigurau mis Awst 2011 a mis Awst 2012 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol;
Yn gresynu ymhellach, er gwaethaf yr Uned Gyflawni, bod y Llywodraeth yn dal yn annhebygol o gyrraedd ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ymysg pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol erbyn 2012.
Gellir gweld yr ystadegau ar amseroedd aros drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121108sdr1942012en.pdf (Saesneg yn unig)
Gellir gweld yr ystadegau ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc drwy fynd i:
http://www.nomisweb.co.uk/reports/lmp/gor/2013265930/subreports/gor_ccadr_time_series/report.aspx (Saesneg yn unig) |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5115 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith;
2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed;
3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn mynegi pryder nad yw cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn sicrhau’n ddigonol bod swyddi’n cael eu creu’n barhaol i bobl ifanc.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi nad yw’n glir yn union pa raglenni’r Llywodraeth fydd yn cael eu hehangu, na pha raglenni newydd fydd yn cael eu creu, o ganlyniad i gytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau, ac felly’n galw ar y Llywodraeth i wneud datganiad cyn gynted â phosibl ynghylch sut y mae’n bwriadu dyrannu’r arian hwn.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod diweithdra ymysg pobl ifanc yn uwch yng Nghymru (43%) nag yn Lloegr (39%) yn 2011/12.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘, gan gynnwys, o bosibl, grantiau hyfforddi i fusnesau sy’n cyflogi pobl ifanc ddi-waith’
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith, o dan un Llywodraeth Cymru ar ôl y llall ers datganoli, nad yw canran y bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed sy’n hawlio budd-dal diweithdra erioed wedi bod o dan ffigur cyfartalog y DU. |
7. Dadl Fer - GOHIRIWYD (30 munud)
NDM5113 Ken Skates (De Clwyd):
Y Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd maethol Cymru |
Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 27.7 ac 12.20(i) er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y ddwy eitem nesaf o fusnes (5 munud)
NDM5117 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 er mwyn caniatáu i NDM5118 a NDM5119 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 5 Rhagfyr 2012. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahan: |
8. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (15 munud)
NDM5118 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012.
Dogfennau Ategol: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 |
9. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) (15 munud)
NDM5119 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012.
Dogfennau Ategol: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2013